NDM9024 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025 | I'w drafod ar 11/02/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Hawliau Dynol (Cymru).
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwneud hawliau dynol rhyngwladol dethol yn rhan o gyfraith Cymru fel eu bod yn rhwymol i Weinidogion ac awdurdodau cyhoeddus Cymru wrth arfer swyddogaethau datganoledig a gellir eu gorfodi gan lys neu dribiwnlys;
b) ei gwneud yn haws i bobl yng Nghymru ddeall a mynnu eu hawliau, a darparu llwybrau cliriach i gael mynediad at gyfiawnder pan nad yw eu hawliau'n cael eu cynnal gan gyrff cyhoeddus; ac
c) gwella monitro ac atebolrwydd, gan sicrhau y gellir dal cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i gyfrif pan fyddant yn methu â chynnal yr hawliau dynol hyn.