NDM9012 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2025 | I'w drafod ar 21/10/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2024-25 Comisiynydd Plant Cymru

Anfonwyd copi o'r adroddiad drwy e-bost at Aelodau'r Senedd ar 14 Hydref 2025.

Gwelliannau

NDM9012 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi galwad y Comisiynydd am gymorth ariannol uniongyrchol i blant mewn tlodi dwys, gan gynnwys taliad plant i Gymru, ar sail model yr Alban.

Yn croesawu ymrwymiad Plaid Cymru i gyflwyno taliad o’r fath.

Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi pleidleisio yn erbyn cynigion Plaid Cymru i’w gyflwyno.