NDM9010 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025 | I'w drafod ar 15/10/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod dadansoddiad gan y Welsh Retail Consortium yn 2023 wedi dangos bod gan Gymru’r ail nifer uchaf o siopau gwag yn y DU;

b) bod bron i 100 o fanciau ar y stryd fawr wedi cau yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf; ac

c) bod rhaglen ‘Balchder Bro’ Llywodraeth y DU yn dyrannu £214 miliwn o gyllid i Gymru gyda’r nod o gryfhau adfywio yn seiliedig ar leoliad.

2. Yn gresynu nad yw’r rhaglen ‘Balchder Bro’ yn darparu sicrwydd cyllid hirdymor ac ar y raddfa sydd ei angen ar gyfer adfywio canol trefi.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer adfywio canol trefi, gan nodi gweledigaeth tymor hir ar gyfer canol trefi sy’n cynnwys mesurau i:

a) sefydlu lluosydd ardrethi busnes ffafriol ar gyfer manwerthwyr bach ac annibynnol ar y stryd fawr, gan gynnwys busnesau lletygarwch;

b) sefydlu sicrwydd cyllid tymor hir ar gyfer adfywio canol trefi; ac

c) cyflwyno deddfwriaeth i gryfhau pwerau ‘Hawl i Brynu’ cymunedol.

Gwelliannau

NDM9010 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2025

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach;

b) gwella mynediad at barcio am ddim yng nghanol trefi;

c) diwygio'r system gynllunio i hyrwyddo cynnig cymysg ar ein strydoedd mawr;

d) sefydlu cronfa trefi glan môr i helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn ein cymunedau arfordirol;

e) sefydlu cronfa trefi marchnad i helpu i fynd i'r afael â heriau yn nhrefi marchnad Cymru; ac

f) gweithio gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i hyrwyddo perchnogaeth gymunedol o asedau pwysig sydd dan fygythiad o gau.