NDM8999 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2025 | I'w drafod ar 08/10/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu y bydd asesiad Llywodraeth Cymru o effaith economaidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2025 yn arwain, yn ôl amcangyfrifon, at:

a) 56,000 o dda byw Cymreig yn cael eu colli;

b) 1,163 o swyddi ar ffermydd Cymru yn cael eu colli; a

c)  £76.3 miliwn o incwm busnes ffermydd yn cael ei golli.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy presennol a chyflwyno cynllun yn ei le sy'n gweithio i ffermwyr, gan roi diogeledd bwyd a chynhyrchiant yn ganolog iddo.

Asesiad effaith economaidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Gwelliannau

NDM8999 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2025

Dileu pwynt 2 a'i roi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Bord Gron Gweinidogol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i barhau i esblygu a diwygio'r cynllun er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy a hyfyw i'r sector amaethyddol yng Nghymru.

NDM8999 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2025

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i weithio gyda'i gilydd i ddarparu setliad ariannol aml-flwyddyn i'r sector amaethyddol, ac i symud i ffwrdd o Farneteiddio'r gyllideb ffermio er mwyn darparu sefydlogrwydd economaidd i'r sector.

NDM8999 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2025

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn cydnabod y cydweithio a ddigwyddodd wrth ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chyfraniad sylweddol rhanddeiliaid.

2.  Yn nodi cyhoeddi’r Cynllun ar 15 Gorffennaf 2025 a’r gwaith parhaus gyda rhanddeiliaid ar yr haenau Dewisol a Chydweithredol.

3.  Yn croesawu cyhoeddi Achos Busnes llawn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn bod yn agored a thryloyw.

4.  Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £340 miliwn yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026.  

5.  Yn annog ffermwyr i ystyried manylion y cynllun ei hun a defnyddio’r canllaw cyflym sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.