NDM8990 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025 | I'w drafod ar 01/10/2025

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn condemnio lefelau ystyfnig tlodi plant yng Nghymru sydd yn 32 y cant ar hyn o bryd.

2. Yn gresynu fod y rhagolygon yn dangos mai gan Gymru fydd y lefelau uchaf o dlodi plant drwy’r DU erbyn 2029.

3. Yn cymeradwyo Llywodraeth yr Alban am gyflwyno Taliad Plant yr Alban, polisi y mae disgwyl iddo godi 60,000 o blant allan o dlodi yn 2025-26 ac i leoli’r Alban fel yr unig genedl yn y DU lle mae disgwyl i gyfraddau tlodi plant ostwng ar y cyfan erbyn 2029.

4. Yn nodi:

a) ymrwymiad Plaid Cymru i gyflwyno Cynnal, sef taliad plant i Gymru fel blaenoriaeth llywodraethol; a

b) bod Policy in Practice wedi adnabod mai’r ymyriad mwyaf pwerus ac effeithiol wedi’i ddylunio i leihau tlodi yw taliad plant uniongyrchol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno taliad plant; a

b) ail-ymrwymo i gael gwared ar dlodi plant yn llwyr gyda thargedau statudol mesuradwy.

Adroddiad Policy in Practice (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM8990 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu ymhellach mai teuluoedd Cymru sy'n talu'r costau gofal plant uchaf ym Mhrydain Fawr, sy'n cyfrannu at dlodi plant.

Yn credu ei bod yn well gwario arian trethdalwyr ar wella gofal plant yng Nghymru ac ar wella economi Cymru er mwyn codi mwy o deuluoedd allan o dlodi.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i ddefnyddio cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod teuluoedd Cymru yn cael yr un swm o gymorth gofal plant ag y mae teuluoedd yn Lloegr yn ei gael; a

b) i ailymrwymo i ddileu tlodi plant gyda thargedau statudol mesuradwy.

NDM8990 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2025

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod yn rhaid i roi terfyn ar dlodi plant fod yn flaenoriaeth lwyr ar bob lefel o’r llywodraeth.

Yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl ysgogiadau datganoledig sydd ar gael i'w graddau llawn ac arwain wrth gydlynu camau gweithredu ehangach i roi terfyn ar dlodi plant, fel y nodir yn y Strategaeth Tlodi Plant.

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi galw dro ar ôl tro i’r terfyn dau blentyn a'r cap budd-daliadau lles ddod i ben;

b) heb bwerau ar hyn o bryd i ddeddfu ar gyfer taliad plant;

c) yn cefnogi Siarter Budd-daliadau Cymru, a fabwysiadwyd gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n darparu cefnogaeth wirioneddol i bobl wneud y mwyaf o incwm eu teulu; a

d) yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cynnydd ar y Strategaeth Tlodi Plant yn ddiweddarach eleni.

Strategaeth Tlodi Plant Cymru

Siarter Budd-daliadau Cymru