NDM8985 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025 | I'w drafod ar 05/11/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd defnyddio plastig untro ar gynnyrch ffres ar gyfer ffrwythau a llysiau sydd wedi cael eu profi i fod o ddim budd neu fod y budd yn ddibwys, o ran ymestyn oes silff pan fyddant wedi'u pecynnu mewn plastig.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) lleihau faint o blastig untro diangen sydd ar draws cadwyni cyflenwi Cymru, gan ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl;

b) lleihau gwastraff bwyd a lleihau'r baich ar gyllid cartrefi drwy ganiatáu i ddefnyddwyr brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnynt yn seiliedig ar bwysau.

3. Yn nodi y byddai'r Bil yn berthnasol dim ond wrth brynu ffrwythau a llysiau mewn symiau is na 1.5kg.