NDM8961 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025 | I'w drafod ar 16/07/2025Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2026-27, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn:
a) digwyddiad i randdeiliaid yn y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor;
b) grwpiau ffocws ymgysylltu â dinasyddion; a
c) digwyddiadau ymgysylltu gyda phobl Ifanc, gan gynnwys gweithdy gydag aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27: Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu y Pwyllgor Cyllid