NDM8960 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025 | I'w drafod ar 16/07/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth i economi, diwylliant, iaith, amgylchedd a chymunedau gwledig Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal pleidlais derfynol, rwymol yn y Senedd ar ei chynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig, cyn ei weithredu, er mwyn sicrhau ei gyfreithlondeb democrataidd, a hyder y sector amaethyddol.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy Arfaethiedig

Gwelliannau

NDM8960 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2025

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r cynnig i gyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy; ac

Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru’n dod ag Offeryn Statudol ger bron sy’n cynnwys y prif ddarpariaethau fydd yn sail i’r Cynllun.