NDM8943 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2025 | I'w drafod ar 01/07/2025

Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, a Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2025.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.