NDM8938 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2025 | I'w drafod ar 25/06/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod model cyllido presennol Cymru, yn seiliedig ar Fformiwla Barnett, wedi dyddio ac yn annheg.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr achos i Lywodraeth y DU dros ddisodli Fformiwla Barnett a rhoi setliad newydd o gyllido teg i Gymru yn ei le.