NDM8917 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2025 | I'w drafod ar 11/06/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi moratoriwm ar bob cais i osod paneli solar ar dir amaethyddol;
b) cynnal adolygiad o botensial ynni solar yng Nghymru; ac
c) datblygu strategaeth solar ar gyfer Cymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
NDM8917 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar
06/06/2025
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) parhau i gydweithio â datblygwyr ar gyfer prosiectau solar fel y bo angen, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn deall y polisïau cynllunio cadarn sydd mewn grym yng Nghymru; a
b) parhau i fynd i’r afael â’r gwaith ar y cynnig i’r sector ynni adnewyddadwy, a fydd yn cynnwys technolegau solar, gan barhau â gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Wynt ar y Môr.