NDM8902 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 13/05/2025 | I'w drafod ar 20/05/2025

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Rhentwyr i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2024 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2025, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Cyhoeddiadau Bil Hawliau Rhentwyr - Biliau Seneddol - Senedd y DU (Saesneg yn unig)