NDM8898 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 07/05/2025 | I'w drafod ar 14/05/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu:

a) mai Cymru sydd â'r cyflogau isaf ym Mhrydain Fawr;

b) bod nifer y busnesau sy'n marw yn parhau i fod yn fwy na nifer y busnesau sy'n cael eu geni; ac

c) pe bai'r dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu ar yr un gyfradd ag y mae yn Lloegr ers 2010, y byddai'r aelwyd Band D cyfartalog yng Nghymru ar ei ennill o £350 y flwyddyn.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau arbedion effeithlonrwydd, y tu allan i gyllidebau iechyd, ysgolion a ffermio, i gyflawni toriad o 1 geiniog yn y gyfradd sylfaenol o dreth incwm;

b) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden;

c) dileu cyfraddau busnes ar gyfer busnesau bach; a

d) sicrhau refferenda lleol ar gyfer cynghorau sy'n cynnig cynnydd o dros 5 y cant i'r dreth gyngor mewn un flwyddyn ariannol.

Gwelliannau

NDM8898 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2025

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) mae bil cyfartalog y dreth gyngor ar gyfer eiddo Band D yng Nghymru £110 yn is na’r bil yn Lloegr ac mae dros 256,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru yn derbyn cymorth gyda’u biliau drwy gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

b) roedd y gyfradd geni ar gyfer busnesau yng Nghymru yn 2023 yn uwch na’r gyfradd yn Ne-ddwyrain a De-orllewin Lloegr, ac yn uwch na’r gyfradd yng Ngogledd Iwerddon; a

c) mae’r cynnydd yn enillion wythnosol cyfartalog oedolion yng Nghymru sy’n gweithio’n amser llawn lawer yn fwy na’r cynnydd yn y DU yn gyffredinol dros y 10 mlynedd diwethaf.

2. Yn cydnabod:

a) mae talwyr ardrethi o fewn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden wedi derbyn dros £1 biliwn mewn cymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi busnes dros y chwe blynedd diwethaf ac nid yw bron i hanner yr holl dalwyr ardrethi yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl;

b) rhagwelir y bydd cyfraddau’r dreth incwm yng Nghymru yn cyfrannu dros £3 biliwn at gyllideb Cymru eleni; a

c) mae awdurdodau lleol yn atebol i bobl Cymru wrth iddynt osod cyllidebau a’r dreth gyngor, a hynny ar sail anghenion gwasanaethau lleol.

NDM8898 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2025

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod treth fel cyfran o gynnyrch domestig gros y DU wedi cyrraedd ei lefel uchaf mewn dros 70 mlynedd dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU;

b) effaith ragamcanol cynnydd Llywodraeth bresennol y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar dwf cyflog cyfartalog; a

c) baich parhaus Brexit ar fasnach a buddsoddiad Cymru, a'r gost i fusnesau a threthdalwyr Cymru o orfod cydymffurfio â biwrocratiaeth ychwanegol y tu allan i Farchnad Sengl yr UE.

2. Yn gresynu:

a) bod Llywodraeth Lafur y DU wedi torri eu haddewid beidio â chodi trethi ar bobl sy'n gweithio; a

b) at benderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i Farneteiddio ad-daliadau craidd y sector cyhoeddus gan y Trysorlys i gyfraniadau yswyriant gwladol, sydd wedi gadael Cymru yn wynebu diffyg o £65 miliwn.

3. Yn credu:

a) bod cyfyngiadau presennol pwerau trethi amrywiol Llywodraeth Cymru yn rhwystr i lunio polisïau effeithiol yng Nghymru; a

b) y dylai'r Senedd feddu ar y cymhwysedd datganoledig i osod ei bandiau treth incwm ei hun, yn unol â'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i Senedd yr Alban dan Ddeddf yr Alban 2012.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio am bwerau sydd ar hyn o bryd wedi'u cadw i San Steffan er mwyn galluogi'r Senedd i osod pob cyfradd a band ar gyfer Treth Incwm Cymru;

b) sefydlu lluosydd ardrethi busnes ffafriol ar gyfer busnesau bach a chanolig; a

c) ailgysylltu â'r rhaglen diwygio treth cyngor.