NDM8887 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025 | I'w drafod ar 07/05/2025

Cynnig bod Senedd Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Ymchwiliad dilynol i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ebrill 2025.