NDM8885 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 28/04/2025 | I'w drafod ar 06/05/2025Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adrannau 1 i 4;
b) Atodlen 1;
c) Adran 5;
d) Atodlen 2;
e) Adran 6;
f) Atodlen 3;
g) Adrannau 7 ac 8;
h) Yr enw hir.