NNDM8884 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod enseffalomyelitis myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu ar bob lefel o ddifrifoldeb.
2. Yn nodi bod 25%, o’r rhai sy'n dioddef o ME, yn cael eu categoreiddio gan NICE fel ‘difrifol: yn bennaf yn gaeth i’r gwely neu’r tŷ’, a ‘difrifol iawn: gyfan gwbl gaeth i’r gwely’, sy'n gofyn am ofal llawn amser ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, gofal lliniarol a bwydo drwy diwb.
3. Yn gresynu mai’r rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf o ddifrifoldeb ME sy'n cael y lleiaf o ofal a thriniaeth briodol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymateb i'r pryderon a godir yn Adroddiad y Crwner yn Lloegr, Prevention of Future Deaths, ac esbonio pa gamau ymarferol y bydd yn eu cymryd i sicrhau na fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn cael ei roi mewn amgylchiadau mor drasig â'r rhai a ddisgrifir yn yr adroddiad;
b) sicrhau bod gwasanaethau ME a ariennir gan Adferiad yn gwneud darpariaeth sy’n briodol i anghenion cleifion sydd ag ME difrifol a difrifol iawn;
c) dwyn ynghyd grŵp arbenigol o weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw, ar lefel genedlaethol, i ddatblygu canllawiau a safonau ansawdd Cymru Gyfan ar ME, gan gynnwys ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol;
d) gwneud penodi ymgynghorydd arbenigol Cymru gyfan ar gyfer cyflyrau cronig ôl-heintus - gan gynnwys ME a Covid hir - yn flaenoriaeth;
e) gwella'r hyfforddiant ar ME ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn gyntaf yn y GIG, ond hefyd mewn gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion: yn benodol, codi ymwybyddiaeth o anghenion gofal oedolion a phlant sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; ac
f) sicrhau bod byrddau iechyd yn wirioneddol gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau Adferiad ME a Covid hir, gan ystyried profiadau byw y rhai sy'n dioddef ar y lefelau mwyaf difrifol a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.
Maeve Boothby O’Neill: Adroddiad Prevention of Future Deaths