NDM8881 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025 | I'w drafod ar 30/04/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r diffyg disgyblaeth gynyddol yn ysgolion Cymru a'r effaith niweidiol a gaiff hyn ar yr amgylchedd dysgu, gyda data Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos bod nifer y disgyblion ysgol uwchradd a gafodd waharddiadau tymor penodol wedi treblu erbyn 2022-23, o’r hyn oedd yn 2015-16.

2. Yn gresynu bod ymosodiadau corfforol ar athrawon ac ymosodiadau cyllyll yn ysgolion Cymru ar eu lefelau uchaf erioed.

3. Yn cydnabod bod y berthynas rhwng rhieni ac athrawon wedi chwalu ers pandemig Covid-19.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu strategaeth gadarn i wella disgyblaeth a rheoli ymddygiad mewn ysgolion; a

b) sicrhau bod canllawiau gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu diweddaru er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n cario arf yn cael eu heithrio

Gwelliannau

NDM8881 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2025

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cynnydd mewn ymddygiad heriol gan ddysgwyr yn ysgolion Cymru a'r effaith niweidiol a gaiff hyn ar yr amgylchedd dysgu, gyda data Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos bod nifer y disgyblion ysgol uwchradd a gafodd waharddiadau tymor penodol wedi treblu erbyn 2022-23, o’r hyn oedd yn 2015-16.

2. Yn gresynu bod ymosodiadau corfforol ar athrawon ac ymosodiadau cyllyll yn ysgolion Cymru ar eu lefelau uchaf erioed.

3. Yn cydnabod yr angen i feithrin gwell perthynas rhwng rhieni ac ysgolion er mwyn gwella ymddygiad a phresenoldeb disgyblion.

4. Yn cydnabod effaith sylweddol y cyfryngau cymdeithasol ar ymddygiad myfyrwyr, gan gynnwys y gwaethygiad mewn bwlio, casineb at ferched, a hiliaeth.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu strategaeth gadarn i wella disgyblaeth, rheoli ymddygiad ac atal trais mewn ysgolion;

b) datblygu polisïau ar gyfer rheoli dylanwad negyddol cyfryngau cymdeithasol a mynd i'r afael ag ymddygiad aflonyddgar ar-lein;

c) darparu adnoddau digonol i Unedau Cyfeirio Disgyblion gyda staff, cyfleusterau a gwasanaethau cymorth angenrheidiol ar gyfer myfyrwyr bregus, gan eu galluogi i ailintegreiddio i addysg brif ffrwd; a

d) sicrhau bod darpariaeth ym mhob ysgol i reoli ymddygiad aflonyddgar yn effeithiol a sicrhau diogelwch a llesiant staff a myfyrwyr trwy ystyried cyllid ychwanegol ar gyfer recriwtio swyddogion cymorth ymddygiad, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, a gwella mesurau diogelwch mewn ysgolion.

NDM8881 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2025

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.   Yn gresynu at yr her gynyddol a achosir gan ymddygiad dysgwyr mewn ysgolion, fel yr adlewyrchir yn y data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a chan undebau llafur.

2.   Yn nodi bod unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth mewn ysgolion yn gwbl annerbyniol, a bod meddu ar arf eisoes yn sail dros wahardd.

3.   Yn credu na all ysgolion ar eu pennau eu hunain ddatrys yr ystod o heriau sy'n wynebu plant, pobl ifanc a theuluoedd ers pandemig Covid-19.

4.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) parhau i nodi camau gweithredu i fynd i'r afael â'r materion hyn trwy ei rhaglen waith barhaus ar ymddygiad, gan gynnwys yr arolwg ymddygiad, yr uwchgynhadledd ymddygiad a'r bwrdd crwn ar drais mewn ysgolion; a

b) parhau i weithio gyda phartneriaid gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol, undebau llafur a rhieni, i wneud cynnydd ar y materion hyn ar frys.