NDM8875 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 26/03/2025 | I'w drafod ar 02/04/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu taliad plant.

 

 

Gwelliannau

NDM8875 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 27/03/2025

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn cefnogi’r ystod o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi sylw i ddiben taliadau plant, megis y buddsoddiadau ychwanegol sy’n cael eu gwneud drwy gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru 2025-26, gan gynnwys £30 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gofal plant ac £1.4 miliwn ychwanegol ar gyfer gwaith i sicrhau bod pobl Cymru yn hawlio pob punt sy’n ddyledus iddynt.

2.    Yn nodi’r ymrwymiad fel rhan o gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru 2024-25 i drafod gyda Llywodraeth yr Alban i gael gwell dealltwriaeth o Daliad Plant yr Alban a’r ffordd mae’n gweithredu.