NDM8857 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2025 | I'w drafod ar 19/03/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnydd Llywodraeth y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n dod i rym ar gyfer y flwyddyn dreth 2025-26.
2. Yn cydnabod yr effaith niweidiol y bydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau ar frys i Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnwys yn niffiniad Llywodraeth y DU o gyflogeion y sector cyhoeddus a ddiffiniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac, o ganlyniad, y byddant yn cael eu had-dalu am y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ol pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli:
b) bod elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru yn poeni am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; ac
c) bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau, a bydd yn parhau i wneud sylwadau, i Lywodraeth y DU ar ran gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at:
a) y bwriad i ddyrannu ad-daliadau’r Trysorlys i wasanaethau cyhoeddus craidd ar sail Fformiwla Barnett, a fyddai’n gadael Cymru yn wynebu diffyg o gymharu â Lloegr; a
b) y diffyg eglurder ynghylch swm llawn y costau i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru o ganlyniad i’r newidiadau hyn, lai na mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf ac ar ôl i gyllideb Cymru gael ei phasio.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud galwadau brys ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod costau cynnydd yng nghyfraniadau yswyriant gwladol cyflogwyr i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru yn cael eu talu’n llawn gan Drysorlys y DU.