NDM8852 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025 | I'w drafod ar 12/03/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru bod seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef o lefelau hanesyddol isel o wariant ar welliannau dros nifer o flynyddoedd;
b) bod y tanariannu systematig hwn yn ychwanegol at gadw cyllid canlyniadol HS2 yn ôl; ac
c) yn ôl dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn 2020, bydd Cymru, o gymharu â’i chyfran o boblogaeth y DU a hyd llwybr y rhwydwaith rheilffyrdd, yn wynebu diffyg o rhwng £2.4 biliwn a £5.1 biliwn mewn cyllid i wella ein rheilffyrdd ar sail ymrwymiadau Llywodraeth y DU dros y cyfnod rhwng 2019 I 2029.
2. Yn gresynu:
a) bod adroddiadau yn nodi bwriad Canghellor y DU i rewi gwariant ar brosiectau rheilffyrdd newydd mawr tan ar ôl etholiad nesaf y DU, a fyddai’n dwysau ymhellach y tanariannu systematig ar gyfer rheilffyrdd Cymru, a hynny am o leiaf bedair blynedd arall; a
b) bod addewidion blaenorol Llywodraeth y DU ar seilwaith rheilffyrdd, a oedd ynddynt eu hunain yn annigonol i wneud iawn am danariannu hanesyddol, megis yr addewid i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, wedi methu â chael eu gwireddu.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu ffigyrau wedi’u diweddaru ar y diffyg mewn-fuddsoddiad i wella’r rheilffyrdd yng Nghymru;
b) cadarnhau ei safbwynt y dylid ail-ddynodi HS2 yn brosiect i Loegr yn unig ac y dylai Cymru gael y symiau canlyniadol yn unol â ffigyrau a ddyfynnwyd gan Weinidogion presennol Llywodraeth y DU pan mewn gwrthblaid; ac
c) ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU i ofyn i’r symiau canlyniadol llawn gael eu rhyddhau i Gymru a gwrthdroi lefelau isel o wariant ar welliannau.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu:
a) bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod y lefelau hanesyddol o isel o wariant ar y rheilffyrdd yng Nghymru; a
b) y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi cyfres o flaenoriaethau ar gyfer gwella’r rheilffyrdd a bennwyd gan fwrdd Rheilffyrdd Cymru.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau:
a) cyllid ar gyfer cyfres uchelgeisiol o welliannau i’r rheilffyrdd, gan gychwyn gyda chyflawni argymhellion Comisiynau Trafnidiaeth Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru;
b) adolygiad o brosesau buddsoddi Network Rail er mwyn sicrhau bod Cymru’n derbyn cyfran deg o fuddsoddiad Network Rail yn y dyfodol;
c) cyllid ar gyfer gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd; a
d) lefel briodol o gymhared gyda rhaglenni perthnasol Llywodraeth y DU o fewn fformiwla Barnett, gan gydnabod bod y cyfrifoldeb am y rhan hon o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru bellach wedi’i ddatganoli.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt b)