NDM8837 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 25/02/2025 | I'w drafod ar 04/03/2025Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).
Gosodwyd y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 21 Hydref 2024.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) gerbron y Senedd ar 14 Chwefror 2025.