NDM8832 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2025 | I'w drafod ar 05/03/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i ailystyried ac oedi’r dreth fferm deuluol hyd nes y byddant wedi cynnal ymgynghoriad ac adolygiad economaidd trylwyr o’i effaith ar ffermydd gweithredol.

Gwelliannau

NDM8832 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2025

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd yn: 

1. Nodi bod rhyddhad eiddo amaethyddol yn fater a gedwir yn ôl.

2. Cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ffermwyr Cymru am y newidiadau i rhyddhad eiddo amaethyddol.

3. Cydnabod bod Gweinidogion Cymru wedi annog Llywodraeth y DU, ac y byddant yn parhau i’w hannog, i roi ystyriaeth lawn a phriodol i farn ffermwyr Cymru.