NDM8827 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025 | I'w drafod ar 19/02/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol Nyrsio Cymru, Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru.
2. Yn gresynu bod pobl yn ysbytai Cymru yn cael eu trin mewn amgylchedd nad yw’n ddiogel, yn urddasol nac yn dderbyniol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu wyth argymhelliad yr adroddiad yn llawn.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) yr adroddiad Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru a’i argymhellion; a
b) nad yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo rhoi gofal neu driniaeth reolaidd i bobl mewn amgylcheddau anghlinigol neu anaddas.
2. Yn cydnabod bod adegau pan fo’r GIG yn wynebu pwysau eithriadol, a all olygu bod pobl weithiau'n aros am amser hirach mewn rhannau o’r system ysbytai.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda'r GIG ac awdurdodau lleol i wella’r sefyllfa o ran rhyddhau pobl o'r ysbyty yn amserol ac i gefnogi gwasanaethau gofal cymunedol uwch i ddarparu dewisiadau amgen yn lle mynd i'r ysbyty lle bynnag y bo modd.