NDM8818 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2025 | I'w drafod ar 05/02/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd i dorri 400 o swyddi a therfynu sawl cwrs gradd gan gynnwys hanes yr henfyd, ieithoedd modern a chyfieithu, cerddoriaeth, nyrsio, a chrefydd a diwinyddiaeth.
2. Yn gresynu at:
a) methiant Llywodraeth Cymru i sefydlu model ariannu cynaliadwy i brifysgolion yng Nghymru er gwaethaf rhybuddion dro ar ôl tro gan y sector dros nifer o flynyddoedd;
b) effaith y cyhoeddiad ar staff a myfyrwyr, ar yr economi, ac ar enw da Cymru fel cenedl ddysgu; ac
c) y pwysau ariannol cynyddol yn sgîl penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a newidiadau i reolau fisa i fyfyrwyr rhyngwladol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu, yn unol â'i gyfrifoldeb datganoledig, strategaeth addysg uwch newydd i ddiogelu swyddi a gosod y sector ar sail ariannol gynaliadwy;
b) comisiynu asesiad effaith o'r cynlluniau i gau'r ysgol nyrsio ar lefelau staff nyrsio'r GIG; ac
c) cyhoeddi gwerthusiad o'r pwysau ariannol sy'n wynebu Prifysgolion Cymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Yn is-bwynt 2 (c), dilëu popeth ar ôl 'cyflogwyr'.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Prifysgol Caerdydd wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol 90 diwrnod sy'n cynnwys cynigion i dorri tua 400 o swyddi academaidd.
2. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol prifysgolion fel sefydliadau angori yn ein cymunedau a'n heconomi;
b) effaith sylfaenol ystod o ffactorau ar brifysgolion ledled y DU, gan gynnwys Brexit, newidiadau i ofynion fisa, a chyfraddau llog a chwyddiant uwch; ac
c) cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i brifysgolion yng Nghymru sy'n mynd â chyfanswm y cyllid grant i dros £200 miliwn yn 2024-25, a'r incwm ychwanegol a gynhyrchir drwy godi'r cap ar ffioedd dysgu.
3. Yn galw ar Brifysgol Caerdydd i:
a) sicrhau bod egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i'r broses ymgynghori, fel bod lleisiau undebau llafur, staff a myfyrwyr yn cael eu clywed; a
b) cefnogi staff a myfyrwyr y mae'r cynigion yn effeithio arnynt, gan gynnwys galluogi'r holl fyfyrwyr cofrestredig i gwblhau eu cyrsiau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol addysg uwch;
b) gweithio gyda phrifysgolion Cymru i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ar ddarpariaeth allweddol; ac
c) gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau nad yw unrhyw benderfyniadau a wneir gan Brifysgol Caerdydd yn effeithio ar nifer y nyrsys a hyfforddir yng Nghymru.