NDM8814 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2025 | I'w drafod ar 12/02/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) er gwaethaf y digonedd o fwyd o safon a gynhyrchir gan ffermwyr Cymru, mae goruchafiaeth bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn ein diet yn arwain at ganlyniadau dinistriol i iechyd, cyfoeth a llesiant ein cenedl;

b) bod mynediad at fwyd fforddiadwy ac iach yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gyda chymunedau tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan afiechydon sy'n gysylltiedig â diet;

c) bod cynhyrchiant Cymru o 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau y flwyddyn ond yn cyfateb i chwarter dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fesul person;

d) y gall ehangu cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy helpu i leihau milltiroedd bwyd, gwella diogelwch bwyd, a chreu swyddi gwyrdd yng Nghymru; ac

e) bod pontio i fod yn genedl fwyd gynaliadwy yn gofyn am ddull cydgysylltiedig, cydweithredol ac ataliol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu strategaeth llywodraeth gyfannol a chydgysylltiedig i wella diet pobl;

b) hyrwyddo manteision bwyd ffres, heb ei brosesu i annog newidiadau dietegol a mynd i'r afael â goruchafiaeth bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth;

c) defnyddio'r buddsoddiad sydd i'w groesawu mewn partneriaethau bwyd lleol i ddod â thyfwyr, arlwywyr a bwytawyr at ei gilydd i ehangu garddwriaeth yng Nghymru;

d) cyflymu'r gwaith o lunio strategaeth fwyd gymunedol o fewn y Chweched Senedd; ac

e) defnyddio pŵer caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion, cleifion a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.