NNDM8813 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 28/01/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu'r cadoediad yn Gaza.

2. Yn gresynu at yr effaith ddynol ddinistriol ar sifiliaid Palesteina ac Israel o ganlyniad i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol. 

3. Yn ailddatgan

a) condemniad y Senedd o ymosodiad Hamas ar ddinasyddion Israel ar 7 Hydref 2023 ac ymateb milwrol Israel ar bobl Gaza, yn groes i gyfraith ryngwladol; a

b) cefnogaeth y Senedd ar gyfer cadoediad parhaol, caniatáu i sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen, dychwelyd yr holl wystlon, a datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn sicrhau heddwch yn y rhanbarth.

4. Yn cefnogi lansio Apêl Dwyrain Canol DEC Cymru y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £200,000 iddi.

5. Yn nodi

a) dyfarniadau'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn 2024 sy'n cadarnhau anghyfreithlondeb meddiannaeth Israel o Gaza a'r Lan Orllewinol; 

b) gwarantau arestio’r Llys Troseddol Rhyngwladol a gyhoeddwyd ar gyfer Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu a’r cyn-Weinidog amddiffyn, Yoav Gallant, ac arweinydd Hamas, Mohammed Deif, am droseddau rhyfel honedig yn ymwneud â rhyfel Gaza; ac

c) y llythyr a anfonwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru at Brif Weinidog Cymru sy’n nodi bod y sefyllfa yn y Dwyrain Canol yn galw am ein sylw a’n gweithredu parhaus yn unol â’n hymrwymiadau statudol i fod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth y DU atal yr holl allforion arfau i Israel.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod holl weithgareddau, partneriaethau ac arferion caffael Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd yn llawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac nad ydynt felly yn darparu unrhyw gymorth i gwmnïau neu weithgareddau sy’n gysylltiedig â meddiannaeth anghyfreithlon neu weithredu milwrol;

b) sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn cynnal adolygiad brys o fuddsoddiadau pensiwn y sector cyhoeddus i sicrhau eu bod yn foesegol ac yn gynaliadwy;

c) sefydlu fframwaith ar gyfer ei phartneriaethau â busnesau i sicrhau nad oes unrhyw gymorth uniongyrchol neu anuniongyrchol ar gyfer arferion milwrol, meddiannaeth neu apartheid anghyfreithlon yn unol ag ymrwymiad Cymru i gyfrifoldeb byd-eang;

d) archwilio sut y gall gefnogi ymdrechion dyngarol ymhellach yn Gaza; ac

e) sicrhau bod cysylltiadau rhwng grwpiau dinesig a diwylliannol Cymru a Phalesteina yn cael eu meithrin a'u hyrwyddo fel rhan o'i strategaeth ryngwladol.