NDM8806 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025 | I'w drafod ar 30/04/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ymgorffori yng nghyfraith Cymru lefelau staffio diogel gofynnol ar gyfer deintyddion a gomisiynir gan y GIG.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai:
a) sefydlu llinell sylfaen genedlaethol ofynnol ar gyfer staff deintyddiaeth ledled Cymru, yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth o ran iechyd y geg;
b) cyflwyno dyletswydd ar ymddiriedolaethau a byrddau iechyd lleol yng Nghymru i gyfrifo a chymryd pob cam rhesymol i gynnal lefelau staffio deintyddiaeth a hysbysu cleifion o'r lefel;
c) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i wireddu’n raddol hawl holl ddinasyddion Cymru i gael mynediad at wasanaethau deintyddiaeth a gomisiynir gan y GIG;
d) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu i gefnogi a chynnal proffesiwn deintyddiaeth y GIG yng Nghymru; ac
e) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiadau cynnydd blynyddol ar y cynllun hwnnw, yn ogystal â datganiadau cysylltiedig yn y Senedd.