NDM8799 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2025 | I'w drafod ar 26/03/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar fynd i'r afael â thaflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) cryfhau a diwygio'r gyfraith ar dipio anghyfreithlon yng Nghymru mewn perthynas â’r canlynol:

i) cosbau ariannol ac anariannol (megis atafaelu trwydded yrru neu gerbyd);

ii) y cap ar hysbysiadau cosb benodedig;

iii) gweithgarwch gorfodi; a

iv) safoni methodolegau cofnodi ac adrodd data awdurdodau lleol.

b) cryfhau a diwygio'r gyfraith ar daflu sbwriel yng Nghymru mewn perthynas â’r canlynol:

i) nodi taflu sbwriel fel ymddygiad gwrthgymdeithasol;

ii) cosbau ariannol ac anariannol (megis darparu 'cyrsiau ymwybyddiaeth sbwriel' i droseddwyr); a

iii) cyfrifoldebau lleihau sbwriel manwerthwyr a chyflenwyr eraill.

c) cyflwyno prosesau sy'n ei gwneud yn haws i aelwydydd gael gwared ar wastraff.