NDM8798 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2025 | I'w drafod ar 28/01/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.

2. Yn cefnogi galwad i bawb weithredu’n gyflym i ddileu trais ar sail rhywedd a bod angen gweithredu ar sail dull system gyfan.

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026

Gwelliannau

NDM8798 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod dibyniaeth y cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn ar gyllid tymor byr, cystadleuol yn ychwanegu baich gweinyddol, yn rhwystro cynllunio tymor hir, ac yn effeithio ar recriwtio a chadw staff, sy'n effeithio'n arbennig ar sefydliadau llai sy'n gwasanaethu menywod ethnig, anabl, LHDTC+ a mudol lleiafrifol.

NDM8798 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i: 

a) torri 4.2 y cant o gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth goroeswyr rheng flaen; a

b) cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn yng Nghymru, gan waethygu'r pwysau costau presennol ymhellach.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i eithrio’r cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn rhag y cynnydd arfaethedig i gyfraniadau yswiriant gwladol.

NDM8798 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu model ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyda phrosesau tendro ac adrodd symlach.