NNDM8796 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau nad yw Etholiadau Cymru yn cael eu dylanwadu'n ormodol gan y rhai y tu allan i Gymru a'r DU.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: dim ond caniatáu rhoddion ar gyfer pleidiau ac etholiadau gan gwmnïau a chwmnïau atebolrwydd cyfyngedig o elw a gynhyrchwyd yn y DU.