NDM8795 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 15/01/2025 | I'w drafod ar 22/01/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi 80 mlynedd ers sefydlu Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith y mis hwn.
2. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae therapyddion lleferydd ac iaith yn ei chyflawni wrth ddarparu triniaeth, cymorth a gofal i bobl ag anghenion cyfathrebu ychwanegol.
3. Yn gresynu bod llai o therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru fesul pen o'r boblogaeth, nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.
4. Yn deall, yn ôl y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, fod gan 71 y cant o blant a ddedfrydwyd anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu.
5. Yn cefnogi galwadau gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith i gynyddu nifer y therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru a gwella gwaith cynllunio'r gweithlu ar gyfer y proffesiwn.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu model cyllido clir, cynaliadwy ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid ar draws Cymru; a
b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i fandadu presenoldeb therapydd lleferydd ac iaith ym mhob tîm cyfiawnder ieuenctid fel gofyniad statudol.
Adroddiad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid 'Assessing the needs of sentenced
children in the Youth Justice System 2019/20' (Saesneg yn unig)
Adroddiad Cyflwr y Genedl Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith 'Y Gweithlu Therapi Lleferydd ac Iaith yng Nghymru'
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu a chomisiynu cyrsiau addysgu therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen ddwyieithog newydd yn Wrecsam; a
b) bod nifer y lleoedd ar gyrsiau addysgu therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru wedi cynyddu ers 2023.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella mynediad at therapi lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid.