NDM8794 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 15/01/2025 | I'w drafod ar 22/01/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad "Gwasanaethau Canser yng Nghymru" mis Ionawr 2025 gan Archwilio Cymru.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi:
a) methu'n gyson â chyrraedd y targed 75 y cant ar gyfer cleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn 62 ddiwrnod ers mis Awst 2020;
b) achosi dryswch, gan danseilio ei Chynllun Gwella Gwasanaethau Canser ei hun drwy ddarparu eglurder annigonol i'r GIG a chyrff y trydydd sector; ac
c) darparu nac arweinyddiaeth genedlaethol gref na chlir i helpu i ysgogi gwelliannau angenrheidiol i ddiagnosis a thriniaeth canser.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gosod amserlen glir i gyrraedd y targed 75 y cant ar gyfer cleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn 62 ddiwrnod;
b) egluro'n gyhoeddus statws pob un o'i chynlluniau gwella gwasanaethau canser a'u rhyngweithiadau â'i gilydd;
c) defnyddio capasiti traws-sector, trawsgymunedol a thrawsffiniol i leihau'r arosiadau hwyaf ar gyfer triniaeth canser; a
d) gweithredu 10 argymhelliad Archwilio Cymru o adroddiad "Gwasanaethau Canser yng Nghymru" mis Ionawr 2025.
Archwilio Cymru: Gwasanaethau Canser yng Nghymru
Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser ar gyfer GIG Cymru 2023-2026
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn ôl hynny:
Yn gresynu bod dadansoddiad gan y Tasglu Canserau Llai Goroesadwy yn dangos bod Cymru yn safle 32 ar gyfer canser y stumog, 31 ar gyfer canser pancreatig a'r ysgyfaint, 21 ar gyfer canser yr iau a oesoffagal ac 12 ar gyfer canser yr ymennydd - o'i gymharu â 33 o wledydd tebyg.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwnt 3, dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le:
cryfhau strwythurau ar gyfer cydweithredu rhanbarthol er mwyn adnabod capasiti yn well a mynd i'r afael â'r loteri cod post yn ansawdd ac amseroldeb gofal;
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar diwedd y cynnig:
Yn nodi bod argymhellion adroddiad Archwilio Cymru yn cyd-fynd â'r rhai a amlinellir yn adroddiad Plaid Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, ar ddiwygio strwythur llywodraethu'r GIG, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion ar ddiwygiadau llywodraethu a nodir yn adroddiad Plaid Cymru yn unol â hynny.
Cyflwynwyd gan
Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod, fel y nodir yn adroddiad Archwilio Cymru, Gwasanaethau Canser yng Nghymru:
a) bod gwariant termau real ar wasanaethau canser wedi cynyddu i bron i £720 miliwn, sydd gryn dipyn yn uwch na'r twf termau real yng ngwariant GIG Cymru; a
b) bod cyfraddau goroesi pum mlynedd ar gyfer canser wedi gwella ar gyfer pobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2002-06 a 2016-22.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi sefydliadau GIG Cymru i wella perfformiad amseroedd aros mewn cysylltiad â chanser;
b) diweddaru'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser i egluro rolau, cyfrifoldebau a metrigau systemau; ac
c) cyflwyno Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Canser i wella’r ffordd y cydgysylltir ymdrech y GIG i wella gwasanaethau canser.