NDM8756 - Dadl y Senedd
Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2024 | I'w drafod ar 22/01/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) agenda 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru;
b) bod 120 aelod o staff yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y newidiadau a gynigir gan 'Achos dros Newid'; ac
c) y bydd y gwasanaethau a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu lleihau.
2. Yn gresynu:
a) penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i gymeradwyo'r cynigion 'Achos dros Newid'; a
b) y penderfyniad i gau gweithrediadau arlwyo a manwerthu yng Nghoed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas.
3. Yn credu y bydd cau'r rhain yn cael effaith andwyol ar economi'r canolbarth.
4. Yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i ymgysylltu'n rhagweithiol â chymunedau a sefydliadau i gyflymu’r broses er mwyn osgoi cau'r canolfannau dros dro.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl îs-bwynt 1 (a) a rhoi yn ei le:
yr anawsterau economaidd a ddeilliodd o 14 o flynyddoedd o Lywodraeth Geidwadol i'r DU a’r pwysau a ddeilliodd o hyn ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru;
bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gynnig cymorth i aelodau staff y mae’r ‘Achos dros Newid’ yn effeithio’n uniongyrchol arnynt; ac
y bydd ad-drefnu Cyfoeth Naturiol Cymru yn galluogi’r corff i ganolbwyntio ar gyflawni ei swyddogaethau craidd a’i ddyletswyddau statudol.
Yn cydnabod:
a) mae’r 'Achos dros Newid' yn cynnwys cynlluniau a fydd yn golygu na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn cynnal ei weithrediadau arlwyo a manwerthu yng Nghoed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas;
b) bydd safleoedd y canolfannau ymwelwyr yn parhau i fod ar agor at ddibenion cerdded, beicio, parcio ceir a thoiledau; ac
c) bydd hyn yn galluogi grwpiau cymdeithasol a chymunedol a busnesau lleol i ddarparu’r gwasanaethau hyn.
Yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i ymgysylltu â grwpiau cymunedol a busnesau lleol. gan felly hwyluso’r broses o chwilio am bartneriaid sydd mewn gwell sefyllfa i gynnig y gwasanaethau manwerthu ac arlwyo hyn.