NNDM8755 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod
Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) ymateb anghymesur Israel i ymosodiadau erchyll Hamas ar 7 Hydref 2023, sydd wedi arwain at ddegau o filoedd o farwolaethau ymhlith sifiliaid yn Gaza;
b) bod cymryd gwystlon yn drosedd rhyfel a bod yn rhaid i bawb sy'n gyfrifol am amddifadu sifiliaid Israel a Phalesteina o’u rhyddid ac achosi niwed iddynt gael eu dwyn i gyfrif;
c) gwaharddiad Israel ar Asiantaeth Rhyddhad a Gwaith y Cenhedloedd Unedig (UNRWA) sy'n cynyddu dioddefaint pobl Palesteina ymhellach;
d) dyfarniadau'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn 2024 sy'n cadarnhau anghyfreithlondeb meddiannaeth Israel o Gaza a'r Lan Orllewinol;
e) gwarantau arestio’r Llys Troseddol Rhyngwladol (ICC) a gyhoeddwyd ar gyfer Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu a’r cyn-Weinidog amddiffyn, Yoav Gallant, ac arweinydd Hamas, Mohammed Deif, am droseddau rhyfel honedig yn ymwneud â rhyfel Gaza; ac
f) llythyr Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru at Brif Weinidog Cymru sy’n nodi bod y gwrthdaro cynyddol yn y Dwyrain Canol yn galw am ein sylw a’n gweithredu parhaus i’r rhai yr effeithir arnynt dramor ac i gymunedau yng Nghymru yn unol â’n hymrwymiadau statudol i fod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
2. Yn gresynu at yr effaith ddynol ddinistriol ar sifiliaid Palesteina ac Israel ers 7 Hydref 2023.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth y DU:
a) atal yr holl allforion arfau i Israel, gan gynnwys trosglwyddiadau anuniongyrchol, yn unol â rhwymedigaethau rhyngwladol ac atal arfau a weithgynhyrchwyd yn y DU rhag cael eu defnyddio yn groes i gyfraith ryngwladol;
b) gorfodi sancsiynau economaidd ar lywodraeth Israel a chydymffurfio â gwarantau arestio'r ICC;
c) galw am gadoediad ar unwaith a pharhaol, dychwelyd pob gwystl, a mynediad llawn a dirwystr i Gaza ar gyfer cymorth dyngarol; a
d) cydnabod gwladwriaeth Palesteina a galw am heddwch parhaol trwy ddiplomyddiaeth.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod holl weithgareddau, partneriaethau ac arferion caffael Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd yn llawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac nad ydynt felly yn darparu unrhyw gymorth i gwmnïau neu weithgareddau sy’n gysylltiedig â meddiannaeth anghyfreithlon neu weithredu milwrol;
b) sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn cynnal adolygiad brys o fuddsoddiadau pensiwn y sector cyhoeddus i sicrhau eu bod yn foesegol ac yn gynaliadwy;
c) sefydlu fframwaith ar gyfer ei phartneriaethau â busnesau i sicrhau nad oes unrhyw gymorth uniongyrchol neu anuniongyrchol ar gyfer arferion milwrol, meddiannaeth neu apartheid anghyfreithlon parhaus yn unol ag ymrwymiad Cymru i gyfrifoldeb byd-eang; a
d) sicrhau bod cysylltiadau rhwng grwpiau dinesig a diwylliannol Cymru a Phalesteina yn cael eu meithrin a'u hyrwyddo fel rhan o'i strategaeth ryngwladol.