NDM8752 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2024 | I'w drafod ar 04/12/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 56 y cant o bobl sy'n byw gyda dementia sydd wedi cael diagnosis.

2. Yn gresynu mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.

3. Yn credu gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth, lleihau costau dementia i’r GIG a gwneud arbediad cost o hyd at £45,000 y pen drwy ohirio derbyniadau i gartrefi gofal.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia.

Gwelliannau

NDM8752 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia yn rhoi cleifion a'u hanwyliaid yn gyntaf, a'i fod hefyd yn hyrwyddo ymchwil i'r clefyd.

NDM8752 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2024

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.

Yn credu y gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth ac y gallai leihau costau dementia i’r GIG.

Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i adnewyddu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun newydd.