NDM8747 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024 | I'w drafod ar 27/11/2024

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Lafur y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i osod treth fferm deuluol ar fusnesau amaethyddol. 

Gwelliannau

NDM8747 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2024

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gynnal asesiad manwl o effaith y newidiadau trethianol ar fusnesau amaethyddol, er mwyn deall yr effaith y mae’n debygol o’i gael ar gynaliadwyedd a hyfywedd ffermydd teuluol yng Nghymru.

NDM8747 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod cyfraniad pwysig ffermwyr at ein heconomi, ein prosesau cynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd a’n cymunedau.

2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i newid y rhyddhad eiddo amaethyddol.

3. Yn cydnabod bod newidiadau Llywodraeth y DU i eyddhad eiddo amaethyddol wedi’u gwneud o fewn cyd-destun y niwed a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a’r diffyg o £22 biliwn mewn arian cyhoeddus.

4. Yn croesawu cymorth amrywiol Llywodraeth Cymru i ffermwyr, gan gynnwys sicrhau estyniad i ryddhad eiddo amaethyddol o fis Ebrill 2025 i gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.