NNDM8735 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) ymateb anghymesur Israel i ymosodiadau erchyll Hamas ar 7 Hydref 2023, sydd wedi arwain at ddegau o filoedd o farwolaethau ymhlith sifiliaid yn Gaza ac yn Libanus;

b) bod cymryd gwystlon yn drosedd rhyfel a bod yn rhaid i bawb sy'n gyfrifol am amddifadu sifiliaid Israel a Phalesteina o'u rhyddid, ac achosi niwed iddynt, gael eu dwyn i gyfrif;

c) y ffaith fod Israel wedi gwahardd Asiantaeth Rhyddhad a Gwaith y Cenhedloedd Unedig (UNRWA) sy'n cynyddu dioddefaint pobl Palesteina ymhellach;

d) dyfarniadau'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn 2024 sy'n cadarnhau anghyfreithlondeb meddiannaeth Israel o Gaza a'r Lan Orllewinol.

2. Yn gresynu at yr effaith ddynol ddinistriol ar sifiliaid Palesteina, Israel a Libanus ers 7 Hydref 2023.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth y DU i:

a) atal yr holl allforion arfau i Israel, gan gynnwys trosglwyddiadau anuniongyrchol, yn unol â rhwymedigaethau rhyngwladol ac i atal arfau a weithgynhyrchir yn y DU rhag cael eu defnyddio yn groes i gyfraith ryngwladol;

b) gorfodi sancsiynau economaidd ar lywodraeth Israel;

c) galw am gadoediad ar unwaith a pharhaol, dychwelyd pob gwystl, a mynediad llawn a dilyffethair ar gyfer cymorth dyngarol i Gaza a Libanus; a

d) cydnabod gwladwriaeth Palesteina a galw am heddwch parhaol trwy ddiplomyddiaeth.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod holl weithgareddau, partneriaethau ac arferion caffael Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd yn llawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac felly nid ydynt yn darparu unrhyw gefnogaeth i gwmnïau neu weithgareddau sy'n gysylltiedig â meddiannaeth anghyfreithlon neu weithredu milwrol;

b) sefydlu fframwaith ar gyfer ei phartneriaethau â busnesau i sicrhau nad oes unrhyw gefnogaeth uniongyrchol nac anuniongyrchol i arferion milwrol, meddiannaeth neu apartheid anghyfreithlon parhaus yn unol ag ymrwymiad Cymru i gyfrifoldeb byd-eang; ac

c) sicrhau bod cysylltiadau rhwng grwpiau dinesig a diwylliannol Cymru a Phalesteina yn cael eu meithrin a'u hyrwyddo fel rhan o'i strategaeth ryngwladol.