NDM8729 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2024 | I'w drafod ar 20/11/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, fel y’i nodir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, a osodwyd gerbron y Senedd ar 13 Tachwedd 2024, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).