NDM8728 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2024 | I'w drafod ar 19/11/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cofio dioddefwyr hil-laddiad yr Holodomor a’r cysylltiad hanesyddol â Chymru drwy adroddiadau Gareth Jones.

2. Yn cydnabod cyfraniadau ac ymroddiad y grŵp ‘Senedd dros Wcráin’.

3. Yn ymrwymo i undod parhaus gydag Wcreiniaid yng Nghymru a chydag Wcráin.