NNDM8725 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i reoleiddio'r diwydiant gosod carafanau gwyliau.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) cyflwyno cynllun trwyddedu yn gosod y safonau y mae'n rhaid i berchnogion ac asiantau safleoedd carafanau lynu wrthynt;

b) sicrhau bod cytundebau gosod carafanau yn dryloyw, yn gyfreithiol ac yn cydymffurfio â rheolau cystadlu; ac

c) rhoi eglurder i berchnogion carafanau a thenantiaid ar fecanweithiau datrys anghydfodau.