NNDM8724 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gwella'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a lleoliadau gofal iechyd ar gyfer gofalwyr di-dâl, yn seiliedig ar yr hawliau a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

b) cadarnhau'r gwaith o gasglu a monitro data ymgysylltu â gofalwyr di-dâl ar draws gwasanaethau statudol i adrodd arnynt o bryd i'w gilydd;

c) sicrhau bod rhagor o ddata gofalwyr di-dâl yn cael e u rhannu, lle bo hynny'n briodol, rhwng gwasanaethau statudol i gefnogi gofalwyr wrth iddynt lywio drwy wasanaethau ac eirioli dros y bobl y maent yn gofalu amdanynt; ac

ch) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gydnabod gofalwyr di-dâl fel grŵp blaenoriaeth wrth ddylunio a darparu pob ymyriad polisi yn y dyfodol.