NNDM8722 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar yr hawl i weithwyr y sector cyhoeddus gymryd cyfnod sabothol o'r gwaith.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) brwydro yn erbyn straen a lludded i weithwyr y sector cyhoeddus sydd, yn aml, yn cael eu gorweithio;
b) gosod dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i ganiatáu cynllun o'r fath, yn ogystal â'i hwyluso, drwy gynnig opsiynau i weithwyr optio i mewn i fecanwaith aberthu cyflog fel bod gan y staff sy'n cymryd rhan incwm rheolaidd yn ystod eu cyfnod sabothol o'r gwaith; ac
c) gwneud Cymru yn lle mwy deniadol i weithwyr, gan helpu recriwtio ar draws y sector cyhoeddus, yn enwedig mewn sectorau lle y mae'n anodd recriwtio a chadw staff, megis y GIG.