NDM8721 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024 | I'w drafod ar 13/11/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai 14 Tachwedd 2024 yw canfed diwrnod Eluned Morgan AS fel Prif Weinidog Cymru.

2. Yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog wedi sefyll dros Gymru a sicrhau'r gwelliannau y mae pobl Cymru yn eu haeddu.

Gwelliannau

NDM8721 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2024

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi amlinellu gweledigaeth newydd gynhwysfawr ar gyfer ei Llywodraeth.

Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi llwyddo i wneud yr achos yn ddigon cryf gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros:

a) cyflwyno fformiwla cyllido teg i gymryd lle fformiwla Barnett;

b) datganoli Ystad y Goron;

c) digolledu Cymru’n llawn am wariant ar HS2;

d) gwrthdroi’r penderfyniad i gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf i rai pensiynwyr; ac

e) cael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn.

NDM8721 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2024

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y cynnydd sylweddol y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf gan gynnwys:

a) sefyll i fyny dros deuluoedd drwy ariannu codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a thrwy orffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru;

b) sefyll i fyny dros y GIG drwy ddarparu £28 miliwn yn ychwanegol i fynd i’r afael â rhestrau aros a thrwy agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i hyfforddi meddygon y dyfodol; ac

c) sefyll i fyny dros Gymru drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, partneriaeth sydd eisoes wedi sicrhau setliad ariannol gwell i Gymru a £25 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein gwaith i ddelio â thomenni glo nas defnyddir.