NNDM8719 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ymwybyddiaeth menopos.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) ymrwymo Llywodraeth Cymru i ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth menopos;
b) sicrhau bod menywod ledled Cymru yn wybodus am symptomau'r menopos a'r amrywiaeth o driniaethau priodol sydd ar gael, gan gynnwys therapi amnewid hormonau (HRT), a bod ganddynt lwybrau clir at gael cymorth ar gyfer rheoli symptomau'r menopos;
c) sicrhau y gall meddygon teulu gael gafael ar hyfforddiant cyfredol ar symptomau a thriniaethau menopos, gan gynnwys HRT;
d) sicrhau bod menywod yn cael gwybod am eu hawliau i gael gafael ar driniaethau priodol gan gynnwys HRT, a bod ganddynt lwybrau clir at gael cymorth ar gyfer rheoli symptomau'r menopos; ac
e) sicrhau bod hyrwyddwyr menopos yn cael eu penodi ym mhob ardal awdurdod iechyd yng Nghymru.