NDM8718 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024 | I'w drafod ar 13/11/2024

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024, a'r fersiwn hawdd ei deall a osodwyd hefyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024.