NDM8712 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2024 | I'w drafod ar 08/01/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ymgorffori’r Hawl i Dai Digonol, fel y nodir yn y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR), yng nghyfraith Cymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sefydlu’r hawl i dai digonol fel hawl sylfaenol yng nghyfraith Cymru, gan sicrhau mynediad i dai saff, diogel a fforddiadwy i bawb;
b) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i wireddu'n raddol yr Hawl i Dai Digonol;
c) gofyn am asesiadau rheolaidd o anghenion ac amodau tai, gyda thargedau wedi'u gosod i leihau'r anghenion tai sydd heb eu diwallu a gwella amodau dros amser;
d) cryfhau amddiffyniadau tenantiaid a chefnogi arferion rhentu teg i sicrhau sefydlogrwydd tai; ac
e) sefydlu mecanweithiau i unigolion geisio iawn os yw eu hawl i dai digonol yn cael ei dorri neu heb ei fodloni.