NNDM8703 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 24/10/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i Lywodraeth Cymru gynorthwyo perchnogion cronfeydd dŵr preifat yng Nghymru i liniaru dynodiadau risg uchel.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) creu dyletswydd i Lywodraeth Cymru adolygu'n flynyddol yr holl gronfeydd dŵr preifat yng Nghymru;

b) sefydlu cronfa i gynorthwyo cronfeydd dŵr preifat â lefel risg uchel i leihau'r lefel risg; ac

c) ei gwneud yn gyfrifoldeb cyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n rhagweithiol â pherchnogion cronfeydd dŵr preifat i leihau'r risg pan ddisgwylir y gallai gollygniad dŵr heb ei reoli beryglu bywyd dynol.