NDM8702 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2024 | I'w drafod ar 23/10/2024

Cynnig bod y Senedd yn nodi:

1. Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Hydref 2024;

2. Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y rhaglen Cyswllt Ffermio a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Hydref 2024; a

3. Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Gynigion ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 11 Medi 2024.