NDM8693 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2024 | I'w drafod ar 16/10/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canlyniadau PISA 2022 a ganfu mai Cymru oedd â’r sgoriau darllen gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, a’u bod ymhell islaw cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

2. Yn gresynu bod 20 y cant o blant Cymru yn ymarferol anllythrennog pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.

3. Yn cydnabod y cafodd y system o ddefnyddio ciwiau wrth addysgu darllen ei gwahardd yn Lloegr yn 2005, yn sgil pryderon y gallai danseilio ymdrechion i addysgu disgyblion i ddarllen, ond bod hynny dal heb ddigwydd yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gyhoeddi canllawiau ar unwaith i sicrhau bod ysgolion ac athrawon yn defnyddio'r dull ffoneg o addysgu darllen i wella perfformiad, ac i hyrwyddo hynny; a

b) i gyflwyno cyfundrefn o brofion darllen ar frys, fel y gwelwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, er mwyn gwella safonau darllen.

Gwelliannau

NDM8693 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2024

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd ei tharged mwyaf diweddar o sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA erbyn 2022, gan gynnwys sgiliau darllen, a hynny yn dilyn methu â chyrraedd y targed gwreiddiol i Gymru fod ymhlith yr 20 o wledydd uchaf ar restr PISA.

NDM8693 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2024

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gyhoeddi canllawiau ar unwaith i sicrhau bod y dull ffoneg yn flaenllaw wrth addysgu darllen er mwyn gwella perfformiad;

b) i gynnal adolygiad parhaus o'r dystiolaeth arbenigol ddiweddaraf a chymharu arfer da mewn gwledydd eraill er mwyn sicrhau'r dulliau mwyaf effeithiol o addysgu sgiliau darllen;

c) ailddatgan ei tharged o sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA, gan gynnwys sgiliau darllen, a chyhoeddi strategaeth o’r newydd, gyda cherrig milltir mesuradwy, er mwyn ei gyrraedd; a

d) asesu pam fod disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig yn cael canlyniadau PISA, gan gynnwys sgiliau darllen, is na disgyblion mewn cymunedau tebyg yn Lloegr.

NDM8693 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 11/10/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi:

a) codi safonau darllen fel rhan o flaenoriaeth Llywodraeth Cymru i godi safonau mewn ysgolion a cholegau;

b) ymgorffori llythrennedd ar draws pob maes dysgu fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru;

c) cymryd camau i wella’r broses o addysgu dysgwyr i ddarllen, gan gynnwys gwneud geiriad canllawiau yn gliriach lle bo angen; a

d) defnyddio asesiadau personol i gefnogi cynnydd dysgwyr o ran darllen, ac i gadw llygad ar welliannau yn genedlaethol.

2. Yn nodi bod y disgwyliadau o ran pwysigrwydd ffoneg eisoes wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru.

3. Yn cydnabod bod yn rhaid i benderfyniadau am addysgu dysgwyr i ddarllen gael eu llywio bob amser gan yr hyn sydd orau i’r dysgwr.

Canllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru