NNDM8689 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil therapyddion llafar clywedol.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) cydnabod bod y 1000 diwrnod cyntaf yn hanfodol i ddatblygiad plentyn ac y gall ymyrraeth blynyddoedd cynnar gan therapyddion llafar clywedol wella canlyniadau addysgol a bywyd tymor hir plant byddar;

b) ei gwneud yn ofynnol i GIG Cymru fod wedi cyflogi o leiaf 12 therapydd llafar clywedol ardystiedig;

c) gwneud therapi llafar clywedol am ddim i bob plentyn byddar yng Nghymru o dan 5 oed i sicrhau bod pob plentyn byddar yn cael cyfle i gael mynediad at raglen lafar glywedol sy'n agos at ble mae'n byw;

d) mynd i'r afael â'r ffaith:

i) bod plant byddar yng Nghymru ar hyn o bryd yn syrthio y tu ôl i'w cyfoedion sy'n clywed mewn cyrhaeddiad academaidd oherwydd diffyg therapi llafar clywedol;

ii) bod plant byddar mewn perygl mawr o allgáu cymdeithasol, bwlio ac iechyd meddwl gwael a rhagolygon cyflogaeth is; ac

iii) nad oes arbenigwyr llafar clywedol ardystiedig yng Nghymru ar hyn o bryd.